Samsung Galaxy 10
Ein blogiwr Technegol, Bryn Salisbury sy’n trafod y rhyfel patent ar-lein.

Mae ’na ryfel mawr wedi bod yn mynd ’mlaen yn y cefndir dros y byd…

mae’r rhyfel wedi costio miliynau o ddoleri, ac mae llwyth o bobl wedi colli ei swyddi oherwydd y peth. Nid rhyfel rhwng gwledydd, ond rhyfel rhwng cewri y byd cyfrifiadurol.

Bu buddugoliaeth o ryw fath i un o’r cwmnïau wythnos ’ma, ar ôl i Samsung dderbyn dyfarniad yn y llys yn Llundain yn dweud nad oedden nhw wedi copïo cynlluniau’r iPad i greu eu tabledi nhw.

Ar ben hynny, bydd Apple yn gorfod hysbysebu’r ffaith ar ei gwefan, ac mewn papurau newydd ym Mhrydain. Dywedodd yr Ynad Colin Birss QC nad oedd pobol yn cymysgu rhwng yr iPad a’r Galaxy Tab 10, gan ddweud bod yr iPad yn “mwy cŵl”!

Mae’r frwydr nawr yn mynd ymlaen i’r Llys Apêl, ond mae’n dangos nawr bod angen defnyddio mwy o synnwyr pan mae’n dod at batentau, yn sicr yn y byd technoleg.

Dim diwedd

Mewn sefyllfa lle mae cwmnïau mwyaf y byd yn gwario miloedd ar filoedd yn prynu patentau i’r prosesau mwyaf syml (e.e. mae gan Amazon batent ar system o brynu rhywbeth ar-lein trwy ddefnyddio un clic), rwy’n sicr mai dim ond twrneiod sy’n elwa.

Cyhoeddodd Charles Arthur erthygl yn y Guardian nôl yn 2010 yn dangos pwy oedd yn mynd ar ôl pwy yn y llys, a di’r sefyllfa heb wella. Y peth gwaethaf yw, does dim argoel o ddiwedd i’r frwydr chwaith.

Mae’r Cenhedloedd Unedig nawr yn ceisio dod a phob ochr y frwydr at ei gilydd i geisio darganfod os oes modd ateb y broblem, ond fydd hi ddim mor syml â ’ny.

Mae patentau yn werth lot fawr o arian i’r bobol sy’n eu perchen. Gan fod yr UDA dal yn rhoi patentau am y datblygiadau mwyaf syml, a’r ffaith bod nhw’n cael eu hamddiffyn dros y byd trwy gytundebau’r WTO, bydd ceisio ffeindio ateb i’r broblem yn gymhleth dros ben.

Creadigrwydd yn dioddef

Y rhai sy’n colli allan yn y cyfamser yw’r bobol sy’n ceisio datblygu rhywbeth newydd ac arloesol – bydd rhaid iddyn nhw fod yn ofalus dros ben gan fod cwmni o gyfreithwyr yn gallu dod atynt a dweud “da chi’n tarfu ar ein patent ni… bydd rhaid i chi dalu miloedd i ni nawr”.

Does gan y bobol ’ma ddim awydd creu dim, dim ond yr awydd i gael patent ar y syniad o ddangos gwybodaeth mewn ffurf rhestr (na, o ddifrif… fysa Apple yn gallu mynd a chi i’r llys am ’ny…).

Y peth mwyaf pwysig mewn gwirionedd, a’r hyn sy’n rhaid i ni gofio, ydy bod y sefyllfa wedi codi oherwydd ein bod ni wedi gadael llywodraethau i arwyddo cytundebau fel yr WTO, heb ofyn y cwestiwn sylfaenol os yw’r syniad o batentau yn dal i weithio fel yr oedd o nôl yn 1641, a bod ni heb ddiweddaru’r system cyn clymu ein hunain mewn cawlach cyfreithiol.

Dyma pam bod rhaid i ni dalu sylw i gytundebau fel ACTA i wneud yn siŵr bod Llywodraethau ddim yn dinistrio unrhyw obaith o ddyfodol i unrhyw ddiwydiant trwy arwyddo cytundebau rhyngwladol heb ystyried yr effaith hir-dymor. Mae’n ddyletswydd i ni gadw golwg, ac i Ynadon call fel Colin Briss ddweud bod yr holl beth braidd yn wirion.

Mae Bryn Salisbury’n gic Cymraeg yn Llundain, sylwebydd technoleg, trydarwr a podledwr. Gallwch ddarllen rhagor o feddyliau Bryn ar ei flog personol.