‘Co ni off. Mae’r Ewros wedi dechrau ac yn barod mae cyplau ar hyd a lled y wlad wedi penderfynu galw’u plentyn cynta’ yn ‘Kiefer’. Daeth y newyddion anodd mai dim ond rhai ffans sy’n cael gwylio’r gemau yn fyw a fydd yna ddim fan zones yng Nghymru achos Y ‘Rona. Ges i actiwal dagrau’r wythnos ddiwetha’ yn cael ad-daliad am fy nhocyn i gêm yr Eidal, ond roedd hwnna’n well na chwarantinio yn Rhufain ar ben fy hun gyda llwyth o win a (falle) digalondid.