Mae Hywel wedi prynu’r crys.
Mae o’n teimlo’n euog. Roedd o’n ddrud i’w dalu am rywbeth fydd yn hen ymhen dim, ac mae o’n gwybod y dylai’r arian wedi mynd ar y bil dŵr neu ar drwsio’r twrw yn injan y car. Ond mae o wedi ei brynu p’run bynnag, ac wrth iddo gymryd ei lymaid cyntaf o’i beint cyn gêm gyntaf Cymru, mae o’n gwybod ei fod o’n werth y pres. Teimla’r crys fel ail groen iddo, ac mae’n mwynhau’r ddraig dros y fron yn cripian ei galon.