Bo-Jo
Mewn colofn yn The Sun heddiw dywed Boris Johnson fod angen i bobol gefnogi Tîm GB ac edrych ar effeithiau positif y Gemau, yn hytrach na chael eu dal mewn stad o barlys cyn i’r llen godi.

Dywedodd Boris Johnson fod pobol yn poeni’n ddi-angen yn hytrach na dathlu’r achlysur, a llwyddodd i fod yn bositif am y tywydd hyd yn oed: “Yn Lloegr ydyn ni, yng Ngorffennaf – er mwyn y nefoedd gwnaeth bach o law ddim niwed i neb.”

Helynt G4S

Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi mynnu nad oedd hi’n gwybod am drafferthion cwmni G4S i ddarparu digon o staff diogelwch i’r Gemau tan yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Theresa May fod G4S wedi datgelu bod “rhai problemau cynnar” gyda niferoedd y gweithwyr yn nechrau Gorffennaf ond bod y cwmni wedi dweud y byddan nhw’n cael eu datrys.

Gwadodd ei bod hi’n ymwybodol na fyddai’r cwmni’n gallu cadw at y contract yn llawn tan yr wythnos ddiwethaf.

“Ar 11 Gorffennaf dywedodd G4S nad oedden nhw mewn gwirionedd yn gallu darparu’r staff roedden nhw wedi eu contractio i ddarparu” meddai Theresa May.

Mae seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd ar ddydd Gwener 27 Gorffennaf ond mae rhai cystadlaethau Olympaidd yn digwydd cyn hynny, gan gynnwys pêl-droed merched yng Nghaerdydd ddydd Mercher nesaf.