Mae o leiaf 14 o bobol wedi eu saethu’n farw yn Denver mewn dangosiad ganol nos o’r ffilm newydd am yr ystlumddyn, The Dark Knight Rises.

Yn ôl adroddiadau roedd dyn yn gwisgo mwgwd wedi saethu at gynulleidfa’r sinema yn ardal Aurora yn ninas Denver, Colorado.

Roedd un aelod o’r gynulleidfa yn meddwl fod yr ymosodiad yn rhan o’r ffilm i ddechrau. “Wedyn dechreuodd y bwledi dasgu,” meddai Brenda Stuart.

Mae un dyn wedi cael ei arestio ac mae adroddiadau fod yr heddlu’n chwilio am ail saethwr.

Yn ôl gorsaf radio leol KOA cafodd 30 i 40 o bobol eu hanafu yn ystod yr ymosodiad.