Rhodri Glyn Thomas
Mae ffermwr llaeth amlwg wedi dweud nad yw’n cytuno gyda gwastraffu llaeth yn fwriadol fel ffordd o brotestio.
Bu ffermwyr llaeth yn cwyno’n groch am y pris y maen nhw’n ei dderbyn.
Dywedodd Brian Walters, sy’n is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, fod angen ateb tymor hir i’r diwydiant llaeth “neu fe fydd mwy o ffermwyr yn gorfod gadael y diwydiant.
“Mae gwastraffu llaeth yn weithred tymor byr a dw i ddim yn cyd-fynd gydag e.”
Neithiwr roedd Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaeth Cymru, mewn cyfarfod gyda ffermwyr llaeth yn Llandeilo i drafod pryderon am ddyfodol y diwydiant.
Rhybuddiodd Alun Davies y ffermwyr i beidio â gwastraffu llaeth fel arwydd o brotest yn erbyn prisiau, fel y gwnaeth rhai o ffermwyr Dyffryn Tywi yn yr 1980au.
“Archfarchnadoedd yn gwasgu ffermwyr”
Dywedodd Brian Walters wrth golwg360 fod bwlch yn tyfu rhwng beth mae’r cwsmer yn ei dalu am beint o laeth a’r hyn mae’r amaethwr yn ei gael.
“Mae’r ffermwr yn derbyn tua’r un faint am beint o laeth nawr – tua 25c – ag oedd e yn 1996, ond mae pris peint o laeth yn y siop wedi codi.
“Mae’r archfarchnadoedd a phroseswyr y llaeth yn gwasgu’r ffermwyr ac ry’n ni’n gofyn am degwch. Dy’n ni ddim eisiau i bobol gyffredin dalu mwy am eu llaeth, ry’n ni eisiau i’r cwmnïau mawrion dalu mwy o gyfran i ni.
“Does dim diben gofyn i’r archfarchnadoedd ddilyn côd gwirfoddol er mwyn bod yn decach gyda ni. Mae angen i gyfraith gwlad ddwyn pwysau arnyn nhw,” meddai Brian Walters.
“Nifer y ffermwyr wedi haneru”
Cafodd y cyfarfod yn Llandeilo ei drefnu gan yr aelodau etholedig lleol Rhodri Glyn Thomas AC, Jonathan Edwards AS, a rhybuddiodd Rhodri Glyn Thomas fod “gwneud bywoliaeth o’r diwydiant yn dod yn dasg amhosib”.
“Mae’r nifer o ffermwyr yn y diwydiant llaeth wedi haneru yn y 13 mlynedd diwethaf.
“Mae colled o dri i bedwar y cant ar y pris cynhyrchu i bob litr yn golygu colled o thua £65miliwn i’r Sector Llaeth Cymreig bob blwyddyn.
“Sir Gâr yw’r ardal sy’n cynhyrchu’r fwyaf o laeth yn y wlad ac mae llawer o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar y sector,” ychwanegodd Rhodri Glyn Thomas.