Ian Jones
Mae’r cylchgrawn Golwg wedi datgelu yr wythnos hon fod Prif Weithredwr S4C yn cael llai o gyflog na’i ragflaenydd yn y swydd.

Tra’r oedd Iona Jones yn cael £158,000 y flwyddyn ynghyd â char cwmni a gofal iechyd preifat ar ben hynny, mi fydd Ian Jones yn cael £140,000 ac yn gwneud heb unrhyw becyn ychwanegol.

Mae S4C yn gorfod delio gyda chwtogiad o 36% yn ei chyllideb dros y blynyddoedd nesaf, a 40 aelod o staff eisoes wedi gadael eu gwaith ym mhencadlys y Sianel.

Mae cyflog Bos y Sianel yn uwch na’r £133,000 y mae Prif Weinidog Cymru yn ei gael.

Ac mae Carwyn Jones yn dweud fod angen talu digon i ddenu rhywun o’r calibr cywir.

“Nid fi wrth gwrs wnaeth benderfynu beth oedd cyflog Ian Jones,” meddai Carwyn Jones wrth golwg360, “ond mae’n bwysig dros ben bod y cyflog yn ddigon uchel er mwyn tynnu rhywun o safon. Dw i yn credu byddai rhan fwyaf o bobl Cymru yn meddwl bod y cyflog yna yn ddigonol.”