Mae trefnwyr Gŵyl Hanner Cant a gynhaliwyd ym Mhontrhydfendigaid wythnos yn ôl wedi dweud bod y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.

Roedd yr ŵyl gerddorol yn llwyfannu hanner cant o artistiaid Cymraeg fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg — y gig Cymraeg mwyaf erioed yn ôl nifer.

Yn ôl y trefnwyr roedd yn agos at 1,500 o bobl wedi bod i’r digwyddiad, a’r awyrgylch yn profi bod y sin gerddoriaeth Gymraeg yn fyw ac yn hynod iach.

“Rydan ni’n falch iawn o fod wedi llwyddo i gyflawni’r prosiect uchelgeisiol yma’n effeithiol,” meddai un o’r trefnwyr, Huw Lewis.

“Roedd y gerddoriaeth o’r safon uchaf a’r gynulleidfa’n werthfawrogol iawn. Rhaid i ni ddiolch i’r artistiaid am eu cydweithrediad parod a’r gynulleidfa hefyd. Ond, yn fwy na dim ry’n ni am ddiolch i’r holl bobl a gyfrannodd eu hamser yn wirfoddol ymlaen llaw a dros y penwythnos i helpu sicrhau llwyddiant y gig hanesyddol yma.”

Negeseuon cadarnhaol y cerddorion

“Diolch i HannerCant ac i bawb ddaeth i wylio/gwrando. Gwyl a hanner. Pwy ddwedodd bod yr SRG ddim yn iach? Gobeithio cawn HannerCantacUn…” meddai’r cerddor Huw M ar Twitter.

“Pontrhydfendigaid #hannercant #gig50 yn hollol wych. Yr holl brofiad. Diolch yn fawr i’r trefnwyr anhygoel @cymdeithas @HannerCant” oedd ymateb y canwr, Geraint Løvgreen.

Roedd y gantores a’r gyflwynwraig, Elin Fflur yn drist bod y penwythnos ar ben wrth drydar nos Lun: “Dwi’n gutted bo’r penwythnos dwytha’ ’ma drosodd! Rhywun arall yn teimlo run fath? Dwi’m yn siwr iawn be i neud efo fi fy hyn! #hannercant”

Ewch i’r adran flogiau i weld Rhys Llwyd yn cloriannu ei ddeng mlynedd gyda Chymdeithas yr Iaith