Microsoft Surface
Mae Bryn Salisbury’n gic Cymraeg yn Llundain, sylwebydd technoleg, trydarwr a podledwr. Fe fydd yn blogio’n rheolaidd am bethau technoleg a chyfryngau newydd ar Golwg360, ac yn y cyntaf mae’n trafod y gystadleuaeth ymysg y cwmnïau technoleg i reoli’r farchnad dabledi.
Wythnos ’ma, mae’r rhyfel rhwng cewri’r byd cyfrifiadurol wedi datblygu ymhellach gyda Microsoft yn cyhoeddi eu bod wedi datblygu’r Microsoft Surface (ie… hen enw’r bwrdd ddaru nhw ddatblygu flynyddoedd yn ôl).
Bydd dwy fersiwn ar gael, un yn rhedeg Microsoft RT, a’r llall yn rhedeg Windows 8 Professional. Does dim gair eto ar gost y ddyfais, ond mae Microsoft wedi dweud eu bod nhw’n gobeithio bydd y peth wedi ei brisio’n ‘cystadleuol’.
Dysgu gan Apple?
Mae’n gam newydd i Microsoft geisio datblygu caledwedd eu hunain ar gyfer y dabled (mae’r cwmni wedi elwa cryn dipyn o’u hymdrechion gyda’r XBox a’r XBox 360), ac mae’n sicr yn edrych yn neis.
Trwy ddysgu gan Apple, ac wrth reoli’r profiad o’r dechrau i’r ddiwedd, bydd y dabled yn sicr o roi her fach i’r iPad. Y broblem yw bod Microsoft heb ddysgu’n iawn o brofiad Apple gyda’r iPad, ac mae rhyddhau dwy fersiwn wahanol yn mynd i amharu ar werthiant y ddyfais.
Hefyd, gan fod MS yn gobeithio trwyddedu’r system weithredu i gwmnïau eraill greu tabledi ei hunain, bydd cwsmeriaid yn gofyn “pam ddyliwn i brynu tabled Microsoft os yw un Acer yn rhatach?”.
Methu cystadlu
Y gwir ydi na fydd sialens iawn i’r iPad tan fod cwmnïau fel Microsoft neu Google yn deall ’ny, ac yn rhoi dewis syml i gwsmeriaid. Rhag eich bod chi’n meddwl fy mod i jest yn ffan fawr o Apple (ydw, mi ydw i…), ond heb gystadleuaeth iawn, fydd ‘na ddim datblygiad mawr yn y farchnad dechnolegol, a bydd pawb yn dioddef os mai dim ond un dewis sydd gan gwsmeriaid.
Gan fyd yn ôl at y ‘Surface’, mae Microsoft yn sôn byddan nhw ar gael yn nes ‘mlaen eleni (mwy na thebyg yn 2013 ym Mhrydain).
Mae rhaid i ni hefyd ofidio’n bod ni wedi bod lawr y trywydd ’ma hefo Microsoft o’r blaen (HP Slate), ac mae diffyg manylion ar bethau fel cysylltiadau gwe o’r ddyfais, a hyd fywyd y batri yn sicr yn peri rhywfaint o ofid eu bod nhw am fethu unwaith eto.
Ond dwi’n sicr yn edrych ’mlaen i weld un. Mae un peth yn sicr, bydd yn annog Apple i wneud yn siŵr bod yr iPad 4 yn wirioneddol ossym!
Gallwch ddarllen rhagor o feddyliau Bryn ar ei flog personol.