Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi ei ganmol am gymryd rhan mewn sgrysiau ar y We am ddyfodol y Gymraeg ar y cyfryngau torfol.

Cafodd y seminar ‘y Gymraeg, Technoleg a’r Cyfryngau Digidol’ ei threfnu gan Lywodraeth Cymru o dan arweiniad y Gweinidog Addysg a Sgiliau.

Ymhlith y siaradwyr roedd arbenigwr ar y defnydd o’r Gymraeg ar y We, Rhodri ap Dyfrig.

Bu’n rhoi canmoliaeth i’r AC Leighton Andrews am “ymuno yn y sgyrsiau ar-lein” ac am ddangos diddordeb yn y maes.

“Mae’n amlwg ei fod yn gwybod am be’ mae’n son,” meddai Rhodri ap Dyfrig. “Dw i’n falch bod y Llywodraeth yn cymryd rôl flaenllaw yn y mater.

“Bydd y nodiadau a gymerwyd yn y cyfarfod ddoe yn cael eu hadolygu ac yn cael eu bwydo nôl i’r Llywodraeth yn y gobaith o lunio polisïau llywodraethol yn y dyfodol.”

Angen hybu’r iaith ar y We

Dywedodd Rhodri ap Dyfrig fod angen hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar rwydweithiau cymdeithasol ac ar y We yn gyffredinol.

“Dw i’n ymwybodol ei bod hi’n anodd i’r Llywodraeth achos does dim modd creu deddfau neu fesurau sy’n gorfodi pobl i siarad Cymraeg ar y We!”

Roedd Leighton Andrews yn un o nifer a fu’n trydar am y digwyddiad o dan yr ‘hash-tag’ #techCY.