Mae ambiwlans ar daith o amgylch Cymru i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith.
Bwriad y daith yw i geisio codi ymwybyddiaeth y Gymdeithas ac er mwyn “gweld y problemau sy’n wynebu ein cymunedau”.
“Mae tueddiad gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf i eistedd mewn cyfarfodydd a thrafod polisïau,” meddai aelod blaenllaw Cymdeithas yr Iaith, Osian Jones.
Dywedodd fod yr ymateb ar lawr gwlad wedi bod yn bositif.
“Dw i’n meddwl bod y bobl yn falch ein bod ni’n mynd allan i gyfarfod â nhw, a gwrando ar y problemau sy’n wynebu ein cymunedau,” meddai Osian Jones.
“Rydym yn gosod cynaliadwyedd ieithyddol o fewn ein cymunedau ar dop yr agenda.”
Ambiwlans ail-law
Fe brynwyd yr ambiwlans mewn arwerthiant ambiwlans ar gyfer y daith.
“Rhywbeth symbolaidd ydi’r ambiwlans,” meddai Osian Jones, “er mwyn dangos ein bwriad i iachau’r broblem sy’n wynebu ein cymunedau, os dymunwch chi!”
Mae’r daith wedi ei threfnu i gyd-fynd â marchnadoedd a digwyddiadau amrywiol sy’n cael eu cynnal mewn trefi ledled Cymru.
Bydd yr ambiwlans yn ymweld â gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd yfory.