Mae cefnogwr pêl-droed o’r Bermo wedi ei gael yn euog o sarhau capten Man U, Patrice Evra, yn hiliol.
Gwelwyd Phillip Gannon yn fyw ar y teledu yn dynwared mwnci mewn modd sarhaus.
Roedd y dyn 58 oed yn stadiwm Anfield fis Ionawr yn gwlio gêm Gwpan yr FA rhwng Lerpwl a Man U.
Dyma’r ornest gynta’ rhwng y ddau glwb ers gwahardd Luis Suarez am wyth gêm am sarhau Patrice Evra yn hiliol.
Mi gafodd Gannon ei ffilmio’n rhoi ei ddwylo o dan ei geseiliau yn ystod y gêm.