Bythefnos wedi’r llifogydd ac mae cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu yng ngogledd Ceredigion er mwyn codi arian i helpu trigolion sydd wedi colli eiddo a chartrefi.
Mae nifer o drigolion Dolybont, Talybont a Llanbadarn Fawr wedi gorfod gadael eu cartrefi, ac mae pryder na fydd rhai ohonyn nhw’n medru dychwelyd i’w tai am fisoedd lawer.
Neithiwr roedd noson yn Llandre wedi codi £1,500 tuag at gronfa Cyngor Sir Ceredigion i’r dioddefwyr.
“Mae Ceredigion wedi newid llawer dros y blynyddoedd diwethaf ond mae’r ymdeimlad cymunedol yn dal i fod yn gryf yma,” meddai un o drefnwyr y noson, Wynne Melville Jones.
Heno mae Pentref Gwyliau Bae Clarach yn cynnal noson godi arian ac yfory mae gŵyl gerddoriaeth 12-awr yn cael ei chynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth i godi arian i’r rheiny a gafodd eu heffeithio.
“Llanast a mwd”
Dioddefodd pentref Dolybont ar ôl i’r afon Leri orlifo trwy dai’r pentref a’r meysydd carafanau cyfagos.
“Dim ond llanast a mwd sydd ar ôl yn ganol y pentref,” meddai Llinos Evans, un o’r trigolion lleol.
“Mae llawer o sgips yma nawr a phobol yn gorfod twlu [taflu] eu carpedi a’u heiddo.
“Mewn ambell i dŷ cododd y dŵr cyn uched â phumed gris y staer. Os oeddech chi’n byw mewn tŷ byddai lan staer yn iawn ond os oeddech chi’n byw mewn byngalo dyna chi’n colli popeth.”
Dywedodd Llinos Evans iddi hi a’i gŵr gael eu dihuno yn gynnar fore Sadwrn, y nawfed, gan was ffarm lleol oedd wedi methu croesi’r afon Leri er mwyn mynd i odro ar ffarm gyfagos.
Dywedodd Llinos Evans ei bod hi’n dal i boeni am fod lefel yr afon yn uchel eto heddiw yn Nolybont ar ôl glaw trwm yn ddiweddar.