Mae’r cwest i farwolaeth y cricedwr ifanc Tom Maynard ei ohirio tan Fedi 24.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod ar reilffordd yn Llundain fore Llun ac roedd un o drenau tanddaearol Llundain wedi ei daro.
Cafodd oed a chyfeiriad y cricedwr eu cadarnhau yn y cwest heddiw.
Clywodd y cwest hefyd bod ei dad, cyn-chwaraewr criced Morgannwg a Lloegr, Matthew Maynard, wedi adnabod y corff yn swyddogol yn gynharach yn yr wythnos.
Doedd neb o’r teulu yn bresennol yn y cwest yn Llys Crwner Westminster.
Dywedodd y crwner, Dr Shirley Radcliffe, bod yna “ymchwiliad sylweddol” yn parhau i’w farwolaeth.
Fe fydd ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ddydd Mercher Gorffennaf 4.