Llys y Goron Casnewydd
Mae seicig wedi ei ganfod yn euog o dwyllo merched i dynnu eu dillad a pherfformio gweithredoedd rhywiol er mwyn cysylltu gyda’r meirw.

Roedd y merched wedi mynd at Karl Lang, 49, gyda’r bwriad o gysylltu gyda pherthnasau oedd wedi marw.

Dywedodd un ferch ei bod hi wedi cael ei thwyllo i ymddwyn fel “seren borno” yn y gred y byddai hynny’n ysgogi ei phwerau ysbrydol.

Mae Karl Lang o Gasnewydd wedi ei gael yn euog o 12 cyhuddiad o achosi merched i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol yn groes i’w dymuniad rhwng Tachwedd 2005 a Medi 2009.

Marciau allan o ddeg

Clywodd Llys y Goron Casnewydd ddoe fod Karl Lang wedi rhoi marciau i’r merched am eu hymdrechion rhywiol, a’i fod wedi annog y merched i dynnu lluniau o’u hunain yn noeth ac anfon y lluniau ato.

Ar ran yr amddiffyniad, dywedodd Nigel Fryer nad oedd posib ymddiried yn nhystiolaeth y merched ac atgoffodd y rheithgor o sylwadau blaenorol Karl Lang.

“Ni wahoddais y merched yma i dynnu eu dillad. Ni ddywedais wrthyn nhw i ymddwyn mewn modd rhywiol o flaen mlaen i.

“Y cyfan wnes i oedd rhoi hyfforddiant ysbrydol iddyn nhw. Dyna pam roedden nhw yno ac ar gyfer hynny’n unig.”

Ychwanegodd Nigel Fryer fod Karl Lang yn seicig a chyfryngwr adnabyddus oedd yn ymweld ag amryw o eglwysi.

“Cafodd ei wahodd i fywydau’r merched yma, i’w helpu,” meddai.

Mae Karl Lang yn wynebu cyfnod dan glo.