Mae cwmni Google wedi cyhoeddi gwefan sy’n rhoi’r cyfle i bobl ddarganfod a rhannu gwybodaeth am ieithoedd sydd mewn perygl o ddiflannu.

Wrth lansio’r Prosiect Ieithoedd Lleiafrifol dywedodd Google fod technoleg yn gallu bod yn hanfodol er mwyn diogelu dyfodol dros 3,000 o ieithoedd lleiafrifol y byd.

“Ein bwriad yw hybu pobl i greu cronfa ddata o ieithoedd sydd ar fin mynd allan o fodolaeth ar y We,” meddai datganiad gan Google.

“Mae modd ail-gysylltu cymunedau sydd ar wasgar drwy ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol a rhaglenni sy’n dysgu ieithoedd lleiafrifol.

Aeth y cwmni ymlaen i ddweud fod y prosiect yn “gam pwysig i ddiogelu diwylliannau bregus, i anrhydeddu gwybodaeth ein henoed ac i addysgu ein pobol ifanc.”

Tra bod y prosiect yn cael ei redeg gan Google ar hyn o bryd, y bwriad yn y pen draw yw trosglwyddo’r awenau i grwpiau cadwraeth ieithyddol proffesiynol.