Mae’r heddlu, y Frigâd Dân a thîm achub mynydd ar hyn o bryd yn chwilio am ddyn sydd wedi cwympo i fewn i’r afon Wysg ger Aberhonddu.
Credir bod y dyn lleol, 54 oed, wedi cwympo i’r afon ger bont Llanfaes yn ystod oriau mân y bore.
Dywedodd yr Arolygydd Eric Evans fod y gwasanaethau brys yn cynnal ymgyrch ar y cyd er mwyn chwilio amdano.
“Fel y gallwch chi ddychmygu mae’r afon yn llifo’n gyflym iawn yn dilyn y glaw rydym ni wedi ei gael yn ddiweddar, ac felly rydym ni’n bryderus am ddiogelwch y dyn os ydyw yn y dŵr,” meddai’r Arolygydd Eric Evans.