Yr Arglwydd Elis-Thomas
Ni fydd yr Aelod Cynulliad Llŷr Huws Gruffydd yn ymateb i gwynion Dafydd Elis-Thomas am ei ymddygiad.
Mewn cyfweliad â’r Western Mail ddoe dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei fod yn anhapus gyda Llŷr Huws Gruffydd am iddo ailadrodd sylwadau â wnaed ganddo mewn cinio preifat ym Mrwsel.
Ond mae Llŷr Huws Gruffydd wedi dweud wrth golwg360 na fydd yn ymateb i sylwadau diweddara’r Arglwydd, gan ei fod yn “parchu dymuniad y grŵp i beidio rhyddhau unrhyw wybodaeth allanol”.
Nid oedd am ymateb gan fod “dealltwriaeth o fewn y grŵp i gadw unrhyw drafodaethau ynglŷn â’r mater o fewn y Blaid”.
Roedd llefarydd ar ran Plaid Cymru yn cadarnhau nad oes ymchwiliad mewnol i’r mater.
Y cefndir
Yn ôl yr honiadau, roedd yr Arglwydd Elis-Thomas wedi beirniadu arweinydd y Blaid, Leanne Wood, am iddi beidio â mynychu gwasanaeth i ddathlu Jiwbilî’r Frenhines.
Roedd awgrym fod Llŷr Huws Gruffydd wedi dweud wrth arweinyddiaeth y Blaid am sylwadau’r Arglwydd Elis-Thomas
“Dydw i erioed wedi cael fy nhrin yn y fath fodd yn ystod fy mywyd cyhoeddus,” meddai Dafydd Elis-Thomas wrth y Western Mail ddoe wrth esbonio ei fod yn anhapus gyda Llŷr Huws Gruffydd.