Mae cwmni o Benybont-ar-Ogwr sy’n cynhyrchu peiriannau awyrennau wedi cael buddsoddiad gan gwmnïau o Siapan.
Mae Mitsubishi a Development Bank of Japan wedi prynu 60% o gyfranddaliadau cwmni TES Holdings o Benybont.
Banc DVB o’r Almaen a werthodd y cyfranddaliadau ac mae’n parhau i berchen ar 40% o gyfranddaliadau TES Holdings.
Roedd Banc DVB wedi penderfynu ceisio am bartneriaid newydd er mwyn “mynd â TES i’r cymal nesaf o ran datblygiad y cwmni.”
Mae’r dyn a sefydlodd TES, Ashley Cooper, yn parhau i fod yn Brif Weithredwr ar y cwmni.
Mae’r cwmni’n cyflogi dros gant o weithwyr ar hyn o bryd ac yn anelu at gyflogi 200 o weithwyr a chael trosiant o £100m erbyn 2015. Yn 2010 agorodd TES safle newydd yn Singapore er mwyn targedu’r farchnad awyrennau yn Asia.