Yn ôl arbenigwyr gwefan cychwyn cwmnïau Duport.co.uk mae pobol Pontypridd wedi chwalu’r record am gychwyn y nifer fwya’ o fusnesau mewn mis.

Daeth 56 cwmni newydd i fodolaeth ym Mhontypridd fis Mai, gan chwalu’r record flaenorol sef 41 ym mis Mawrth 2003, sy’n ddipyn o beth o gofio bod yr economi mewn twll.

“Nid yn aml fyddwn ni’n gweld record ffurfio cwmnïau mor hirhoedlog yn cael ei chwalu, ond mae hi wedi body n fis nodedig o ran cychwyn busnesau newydd ym Mhontypridd,” meddai Peter Valaitis, Rheolwr Gyfarwddwr Duport.co.uk.