A wnaiff y gemau cyfrifiadurol Cymraeg newydd roi gwên ar wyneb Daf Prys?
Mae gemau Cymraeg newydd yn taflu rhywfaint o olau ar dduwch bywyd Daf Prys …

Mewn ffilmiau, mae’r olygfa o berson truenus yn crwydro anialwch, potel ddŵr wedi hen orffen, gwefusau sych, croen yn torri ac yn ymbalfalu dros fryniau o dywod yn un cyfarwydd i ni gyd.

Wel, yng nghanol mis Awst dyna sut mae gêmwyr oll yn ei deimlo, diffeithwch pur o gemau newydd gyda’r cyhoeddwyr mawrion (a’r rhan fwyaf o’r rhai bychan) oll yn paratoi tan fedi’r diwydiant.

Finnau yn gweld sawl mirage sy’n crafu’r ysbryd dros y bryncyn nesaf, byw mewn gobaith tan i’r gred droi’n ddŵr melys. Gor-ddweud efallai, ond s’dim llawer o hwyl mewn tan-ddweud. Bydd y paragraff uchod wedi bod yn llawer mwy llwm wedyn.

Ond na phoener, bydd cyfnod ein diolchgarwch yn cwympo, megis y nenfwd, ar ein pennau cyn hir, yr anialwch yn troi’n llif, ac eirch ein gwaredigaeth ar ffurf Playstation 4, XboxOne a ‘holiday season’ yr Americanwyr.

Ac er bod gemau newydd gan Bioware, Bungie, Ubisoft, a 2k, ymysg sawl cwmni arall yn ymddangos rhwng nawr a’r Dolig, anodd yw dianc rhag y syniad ’na ein bod ni’n profi blwyddyn lom iawn, blwyddyn sawl addewid ond diffyg gweithred.

Straffigs y consoles newydd yn cyfuno efo gemau cyfresol – mi fydd dau wahanol Assassin’s Creed flwyddyn yma er enghraifft (un i’r genhedlaeth gynt o consoles ac un arall i’r genhedlaeth newydd) yn ei gwneud nhw yn wythfed a nawfed yn y gyfres. Ffrwythlon iawn! I Ubisoft beth bynnag.

Dirgelwch y Marcwis

Ond i chwi eisteddfodwyr sy’n teimlo duwch canol Awst (blwyddyn gron arall i aros tan Meifod) llawenhewch, mae newyddion cyffrous. Dwy gêm iaith Gymraeg newydd – Dirgelwch y Marcwis: Trysor Cudd gan Oysterworld, a Creature Battle Lab gan Dojo Arcade.

Ym, ie, fi’n deall yn iawn fod yr ail un ’na yn annhebygol o fod yn llinell mewn cerdd eisteddfodol ond dwi’n cymryd yn ganiataol y bydd y teitl yn cael ei drosi i’r Gymraeg cyn lansio.

Dirgelwch y Marcwis – Trysor Cudd:

Gêm canfod eitemau drwy bosau a heriau gwahanol yw hon gyda chryman naratif cryf. Wedi ei leisio gan Caryl Parry Jones fel y prif gymeriad, gwelwn bensaer yn gorfod troi’i law at waith dditectif wrth gyrraedd plasty lleol efo dojigoingson.

Fe ges i olwg ar hon yn ddiweddar a sgwrs efo’r trosiwr Rhys Lloyd (ac mi oedd ar gael yn y Steddfod i’w brofi), a’r peth cyntaf i ddweud yw bod y gwaith celf yn drawiadol dros ben, profiad tîm Oysterworld yn dangos yn gryf a’r weledigaeth yn hyfryd.

Lliwiau sylfaenol cryf yn cynnig cyfeiriad cyfoethog iawn i’r profiad a’r troslais, gan feddwl taw dyma yw ymdrech cyntaf Caryl Parry Jones, yn effeithiol. Dyma’r fath o gêm a all fod o ddiddordeb i sawl unigolyn, gyda systemau cyfarwydd o ddatrys posau wedi’i gyfuno efo defnydd llygoden ar y PC neu eich bys ar dabled.

Gêm a all fod ar gyfer oedolion a phlant, neu’n well byth, i’r teulu oll. Dwi ddim wedi profi’r peth yn iawn felly fe all fod yn sglwj, ond mae’n argoeli’n dda.

Un peth i nodi am y gêm yw ei fod ar gael OND yn y Gymraeg, felly, os mae’n troi allan i fod yn un da, mae angen i ni gyd fynd i’r wefan a’i phrynu i sicrhau gwerthiant cryf fel bod mwy o gemau yn y Gymraeg yn ymddangos yn y dyfodol agos.

Y Pokemon Cymraeg

Creature Battle Lab, neu Critshyr Batl Lab (trosiad Dafprys):

Pokemon yw hwn. Dim yr union beth ond man a man iddo fod. Ar gael ar iPhone ac iPad yn fuan, byddwch yn creu creadur bach fydd yn ymladd ar eich rhan mewn campfeydd pwrpasol. Gallwch greu’r creadur at unrhyw siâp (ni nôl mewn i gysyniadau Beiblaidd eto, methu dianc heddiw) a ganddo alluoedd arbennig o’ch dewis chi.

Ond go iawn, fel Pokemon, gêm amaethyddol yw gemau o’r fath yma oll i neud efo selective breeding, maeth cywir i’r creadur ac amgylchedd iachus. Farm ‘em up mwy neu lai. Neu eugenics ar gyfer creaduriaid ffug, dewiswch chi.

Mae hwn ‘am ddim’, hynny yw, gallwch lawrlwytho’r peth heb dalu ceiniog, ond mi fydd systemau o fewn y gêm i dalu er mwyn gwella’ch creadur.

Eto fyth, y mwya’ o lawrlwytho, mwya’ tebygol fydd gemau yn ymddangos yn y dyfodol (www.creaturebattlelab.com). Dwi wedi cael cip cyflym ar hwn ond dim digon i ddweud dim amdano felly mi fydd adolygiad mwy manwl yn y dyfodol.

Blwyddyn arloesol i ni’r Cymry, ond nid felly i gêmwyr yn gyffredinol, sydd i mi, yn ei gwneud hi’n flwyddyn syfrdanol tu hwnt. Diddorol iawn sut mae pethau’n troi.

Gallwch drydar at Daf ar @dafprys.