Joshua Hobbins, o Ben-y-bont ar Ogwr
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw’r dyn 23 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 nos Sadwrn.

Roedd Joshua Hobbins yn dod o ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac mae ei deulu wedi ei ddisgrifio fel “mab, brawd a pherson hyfryd”.

Digwyddodd y ddamwain rhwng cyffordd 36 a chyffordd 37 ar y lôn orllewinol am 8.15yh ar ôl i’w gar Toyota Avensis wyro oddi ar y draffordd.

Mewn teyrnged i Joshua Hobbins, dywedodd ei deulu:

“Roedd yn fab, brawd a pherson hyfryd. Roedd ei fywyd i gyd o’i flaen, gyda gradd meistr mewn peirianneg fecanyddol, swydd roedd o’n ei fwynhau, ffrindiau oedd yn ei garu, ac roedd yntau yn eu caru nhw.

“ Mae hynny i gyd wedi’i gymryd oddi wrtho mewn damwain greulon a thrasig.”