Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cadarnhau bydd canolfannau hamdden, pyllau nofio a stiwdios ffitrwydd dan do yn cael ailagor o ddydd Llun (Awst 10)  ymlaen.

Bydd ardaloedd chwarae dan do i blant hefyd yn gallu agor eu drysau unwaith eto – ond bydd rhai ardaloedd fel pyllau peli yn parhau ar gau.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i dafarndai, caffis a thai bwyta gael agor y tu mewn yng Nghymru wythnos yma.

Mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi i barhau i ddilyn y rheolau ymbellhau cymdeithasol i leihau ymlediad y coronafeirws.

“Mae hyn yn golygu cadw 2 fetr o bellter oddi wrth eraill, golchi ein dwylo’n aml a gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus. Maent yn gamau syml sydd o fudd inni gyd”, meddai Mark Drakeford.

“Nid yw’r rheolau sydd gennym mewn lle yn opsiynol – maent yno i’n diogelu i gyd.

“Maent yn hanfodol os yw Cymru am osgoi cyfnod arall o gyfyngiadau.”

Ychwanegodd y Prif Weinidog fod gan bawb “gyfrifoldeb i wneud y peth iawn” er mwyn diogelu “ein hunain a phawb sy’n annwyl i ni rhag y feirws.”

‘Camau gweithredu’

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol i orfodi’r rheolau hyn.

“O ran y lleiafrif bach o unigolion a busnesau sy’n penderfynu peidio â dilyn y canllawiau, rwyf am ddweud yn glir y byddwn yn cymryd camau gweithredu ac yn cau eiddo unigol ar unwaith pe bai angen”, meddai Mark Drakeford.

“Mae awdurdodau lleol yn cael gwell pwerau i ymyrryd, ac i ymateb yn fwy effeithlon i gwynion gan gynnwys y rheini sy’n dod i sylw Undebau Llafur Cymru a’i undebau cysylltiedig.”

‘Risg sylweddol’

Ychwanegodd y Prif Weinidog fod yna “risg sylweddol” gallai nifer yr achosion gynyddu unwaith eto yng Nghymru.

“Fel y gwelwn mewn sawl man ar draws y byd, nid yw’r pandemig drosodd a rhaid inni barhau’n wyliadwrus.

“Mae risg sylweddol y gallai nifer yr achosion yng Nghymru gynyddu unwaith eto a bydd rhaid inni gymryd camau pellach pe bai hynny’n digwydd.

“Dim ond drwy barhau i wneud ein rhan y gallwn gadw Cymru’n ddiogel.”

Cyhoeddodd y Llywodraeth neithiwr (Awst 6) bydd rhaid i unrhyw un sy’n dod i Gymru o Wlad Belg, Andorra a’r Bahamas dreulio cyfnod o 14 diwrnod mewn cwarantin.

‘Colli cyfle’

Ond mae Darren Millar AS, Gweinidog Adfer Cysgodol yr Wrthblaid, wedi dweud fod Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle, ac y dylai’r newid fod wedi digwydd ar ddydd Sadwrn ac nid dydd Llun.

“Mae penwythnosau yn rhoi cyfleoedd pwysig i lawer o bobl sy’n gweithio, i fanteisio ar gyfleusterau hamdden”, meddai.

“Mae’n drueni mawr fod Llywodraeth Cymru wedi dewis gweithredu’r newidiadau hyn o ddydd Llun yn hytrach nag yfory, gan y bydd yn arwain at benwythnos coll arall i bawb sy’n cymryd rhan.

“Mae llawer o bobol yn defnyddio lleoliadau o’r fath i’w helpu i gadw’n heini ac ailsefydlu, yn dilyn problemau iechyd neu lawdriniaethau ddifrifol, felly bydd y diffyg mynediad dros y misoedd wedi cael effaith fawr ar y bobol yma.”