Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi apelio ar berchnogion cerbydau dŵr personol i ystyried effaith eu gweithgareddau ar ymwelwyr a bywyd gwyllt.

Mae lansio cerbydau dwr wedi’i wahardd mewn nifer o leoliadau o amgylch Arfordir Penfro oherwydd ymddygiad anghyfrifol a’r sŵn sy’n cael ei achosi gan y peiriannau.

Ond mae cynnydd wedi bod yn ddiweddar mewn achosion yn ymwneud â cherbydau dŵr personol ar Arfordir De Penfro.

‘Difetha diwrnod cannoedd o bobol’

“Yn gyffredinol, does dim llawer o groeso i weithgareddau swnllyd sy’n tarfu ar eraill, fel reidio cerbydau dŵr personol ar Arfordir Penfro oherwydd eu heffaith ar nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol”, meddai Prif Weithredwr Awdurdod Cenedlaethol Arfordir Penfro, Tegryn Jones.

“Llonyddwch a distawrwydd yw rhai o’r prif bethau mae ein trigolion a’n hymwelwyr yn eu gwerthfawrogi.

“Gall ymddygiad un gyrrwr cerbyd jet ddifetha diwrnod cannoedd o bobol.”

Mae Tegryn Jones yn annog unrhyw un sy’n mynd i’r môr o amgylch Arfordir Penfro  i ddilyn Cod Morol Penfro.

“Gan fod cymaint o ymwelwyr o gwmpas, mae yna dipyn o bobl allan ar y môr mewn cychod bach a caiacs, ac mae padlfyrddwyr yn benodol mewn perygl o gael eu troi drosodd gan donnau sy’n cael eu creu gan gerbydau dŵr personol”, meddai Tegryn Jones.

“Rydyn ni’n annog pobol i gadw at yr ardaloedd acwabatics penodol ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau a dilyn y cyfarwyddiadau cyflymder ‘araf iawn’ a lleihau ôl-donnau sydd mewn grym yng nghyffiniau’r traethau a’r harbwr.”