Mae’r heddlu ym Manceinion yn ymchwilio i farwolaeth chwaraewr rygbi o Gymru a fu farw mewn gwesty dros y penwythnos.

Daethpwyd o hyd i gorff Austen Howells, 40 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr am 3:30 brynhawn dydd Sadwrn.

Roedd ar benwythnos stag gyda ffrindiau ac yn aros yng Ngwesty’r  Bredbury Hall  yn Stockport pan gafwyd hyd iddo’n farw yn ei ystafell.

Roedd Austen Howells newydd ddychwelyd i glwb rygbi Maesteg gan ddechrau gweithio fel hyfforddwr ar ol chwarae fel maswr i nifer o dimau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Manceinion eu bod nhw’n ymchwilio i achos ei farwolaeth ond tydyn nhw ddim yn ei drin fel un amheus ar hyn o bryd.