Burum
Cafodd 30ain Gwyl Jazz Aberhonddu ei gynnal y penwythnos diwethaf, ac yn ôl un o’r trefnwyr, mae dyfodol disglair i’r ŵyl wedi blwyddyn lwyddiannus eleni.

Yn 2012 roedd pryder am ddyfodol yr ŵyl ar ôl i’r trefnwyr blaenorol, Gŵyl y Gelli, dynnu’n ôl.
Cwmni Orchard o Gaerdydd sydd wedi bod yn trefnu’r ŵyl ers hynny ac yn ôl Tim Powell, un o gyfarwyddwyr Orchard, gwelwyd cynnydd o 20% mewn gwerthiant tocynnau eleni wrth i enwogion fel Burt Bacharach, Loose Tubes, Laura Mvula a Burum berfformio yno.

Meddai Tim Powell: “Fe wnaethon ni gychwyn ar y nos Iau gyda pherfformiad cofiadwy gan Burt Bacharach, sydd wedi ysgrifennu’r trac sain i gymaint o’n bywydau, a dyna oedd y ffordd orau bosibl i lansio 30ain pen-blwydd yr ŵyl.”

‘Manteision ariannol’

Ychwanegodd y bydd Orchard nawr yn cynnal ymchwil marchnad i weld beth yw gwerth yr ŵyl i’r economi leol ac y byddan nhw’n siarad gyda phobl leol i ddatblygu ffyrdd o sicrhau cynaliadwyedd tymor hir yr ŵyl.

Dywedodd Tim Powell: “Rydym yn wirioneddol falch o’r ymateb i Jazz Aberhonddu 2014. Mae angen i ni nawr i gymryd stoc, siarad â’r gymuned leol, ac edrych ar ddatblygu ffyrdd i sicrhau cynaliadwyedd hir dymor  yr ŵyl sy’n dod â llawer o fanteision ariannol i’r ardal, ac sy’n cael ei drysori gan nifer fawr o bobl.”

Cafodd 30ain Gwyl Jazz Aberhonddu ei gynnal y penwythnos diwethaf, ac yn ôl un o’r trefnwyr, mae dyfodol disglair i’r ŵyl wedi blwyddyn lwyddiannus eleni.

Yn 2012 roedd pryder am ddyfodol yr ŵyl ar ôl i’r trefnwyr blaenorol, Gŵyl y Gelli, dynnu’n ôl.
Cwmni Orchard o Gaerdydd sydd wedi bod yn trefnu’r ŵyl ers hynny ac yn ôl Tim Powell, un o gyfarwyddwyr Orchard, gwelwyd 20% o gynnydd mewn gwerthiant tocynnau eleni wrth i enwogion fel Burt Bacharach, Loose Tubes, Laura Mvula a Burum berfformio yno.