Gwilym Simmock a Trish Clowes yn perfformio yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu (llun: Rob Froud)
Dylan Iorwerth a’i argraffiadau o Ŵyl Jazz Aberhonddu 2014 …
Brynhawn Sadwrn, mi gafwyd un o’r eiliadau yna sy’n aros yn fyw am byth … darlun oedd, rywfodd, yn crynhoi ysbryd Gŵyl Jazz Aberhonddu ar ei newydd wedd.
Roedd y trombonydd, Dennis Rollins, yn ei hwyliau ar lwyfan y Captain’s Walk, y tu cefn i amgueddfa’r dref a’r dorf wedi hen fynd i ysbryd y darnau.
Yn dawel bach, mi gerddodd merch fach tua thair neu bedair oed yn araf i gyfeiriad y llwyfan a nesu gam wrth gam at y tu blaen.
Roedd hi fel petai wedi ei chyfareddu, ei chamau’n digwydd bron fel yr oedd braich hir y trombôn yn llithro yn ôl ac ymlaen.
Mi safodd hi fan’no am hir, hir, yn syfrdan, wrth i’r gerddoriaeth chwyddo o’i blaen a llygaid Rollins ei hun yn dawnsio chwerthin wrth ganu i fyw ei llygaid hithau.
Dennis Rollins a'r ferch fach (llun: Rob Froud)
Pan ddechreuodd y gân nesa’ – fersiwn hudolus o’r gên Y Rhosyn gan Amanda McBroom – mi gaeodd yr un fach ei llygaid, lledu ei breichiau a throi fel tylwythen deg. Dyna’n union y byddai pawb arall yn y gynulleidfa wedi’i wneud, pe baen ni yn dair oed.
Y Captain’s Walk ydi un o lwyfannau enwog yr ŵyl jazz yn y Canolbarth ac roedd yn ôl eleni ar ôl bwlch o dair neu bedair blynedd. Mae’n llwyfan agored, anffurfiol … y math o le sy’n rhoi cyfle am eiliadau gwefreiddiol fel yna.
A doedd Rollins a’i Velocity Trio ddim yn ddrwg chwaith, gan ddangos gallu jazz i lwyddo efo cyfuniadau annisgwyl o offerynnau – yn yr achos yma, trombôn ac organ Hammond.
Mae sain trombôn yn gallu llifo mwy na rhai o’r offerynnau unigol eraill a’r organ yn gallu cyfuno nodau byr a hir yr un pryd; pan oedd y ddau’n chwyddo’r sain gyda’i gilydd, roedd y nodau’n codi o’ch cwmpas fel môr.
O Leonard Cohen i Dylan Thomas
Ym mhen arall yr ŵyl yn hwyr nos Sul, yn amgylchedd ddefosiynol Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, roedd y pianydd o Gymro, Huw Warren, yn llwyddo i droi’r accordion yn offeryn hyblyg, deheuig, wrth gyfeilio i Christine Tobin.
Roedd y gantores o Iwerddon yn cyflwyno ei fersiynau hi ei hun o rai o ganeuon enwog y canwr o Ganada, Leonard Cohen, a’r gosodiadau jazz yn llwyddo i ddangos elfennau newydd yn y caneuon, gan dynnu’r alaw dlos sy’n cuddio mewn cân enwog fel Suzanne.
Ond yr ennyd lesmeiriol y tro yma oedd y cyflwyniad o Anthem (“There is a crack in everything, that’s how the light gets in”). Am yr un gân yma, roedd Huw Warren ar y piano a symlrwydd hardd ei chwarae’n codi’r gân i lefel newydd.
Chris Montague (llun: Rob Froud)
Roedd Huw Warren – sy’n wreiddiol o Abertawe ond yn byw yn ardal Porthmadog – wedi cael ei uchafbwynt ei hun, wrth gyflwyno cadwyn o ganeuon wedi’u hysbrydoli gan Dylan Thomas ym mlwyddyn ei ganfed pen-blwydd.
Y piano oedd ei offeryn y tro yma ac, er mai dyma’r perfformiad cynta’ erioed, roedd y cyd-chwarae rhyngddo â’r sacsoffonydd Ian Ballamy, y drymiwr Martin France a’r basydd Steve Watts, fel petaen nhw wedi eu chwarae ganwaith.
Ond, fel y dywedodd Huw Warren wrth golwg360, mae’r tri ohonyn nhw wedi bod yn chwarae jazz efo’i gilydd yn ôl ac ymlaen tros gyfnod o chwarter canrif.
Dyna un arall o ryfeddodau jazz, y gallu i gyfuno gwahanol offerynwyr a chael plethiadau gwahanol o offerynnau ac arddulliau. Roedd y gitarydd Chris Montague o Gateshead, yn wefreiddiol mewn tri band gwahanol tros y penwythnos, gan gynnwys un lle’r oedd wedi cymryd lle cantores ar y funud ola’.
Un arall tebyg yw Huw Warren, sydd bellach yn gwneud llawer o’i chwarae allan yn yr Eidal – yn cyfuno enwogrwydd rhyngwladol efo prosiectau lleol a Chymreig. Roedd y ddau beth yn dod ynghyd yn ei gadwyn i Dylan Thomas.
Ddwywaith, roedd o’n cyfeilio’n fyrfyfyr i lais Dylan Thomas ei hun yn darllen dwy o’i gerddi a hynny’n tanlinellu pa mor gerddorol oedd goslef y bardd. Mewn darnau eraill, roedd arlliw o’r oslef honno i’w chlywed.
Ond roedd rhywfaint o drybestod bywyd y bardd yn y gerddoriaeth hefyd a holl amrywiaeth lliwgar a llwyd Abertawe yn y gân Ugly Lovely Town, heb sôn am hwyl bwgi-wgi coeth Cwmdonkin Park Boogie neu arddull samba-aidd Organ Morgan.
Ond nid Dylan Thomas oedd diwedd y perfformiad. Yn hytrach, cyfansoddiad wedi’i ysbrydoli gan un o emynau Ann Griffiths … awgrym o brosiect i ddod, a hwnnw’n un arall i’w gofio.
Gwilym ac Ollie
Gwilym Simcock (llun: Rob Froud)
Huw Warren ydi un o enwau gwirioneddol fawr y byd jazz Cymreig; un arall ydi’r piandd Gwilym Simcock, er mai ei enw a’i gartref cynta’ ym Mhontllyfni sy’n rhoi’r cyfle i ni ei hawlio.
Mae yntau’n canu’n gyson gyda gwahanol fandiau a phrosiectau ac, yn Aberhonddu eleni, yn enw gwadd gyda phumawd y sacsoffonydd ifanc, Trish Clowes.
Gwilym Simcock ydi un o’r cerddorion sydd wastad yn gwneud pethau annisgwyl; er mor dda oedd Trish Clowes efo’i chwarae hyblyg, synhwyrus, roedd y pianydd bob tro’n gallu symud yr alaw i gyfeiriad newydd a dyfnder mwy.
Yr uchafbwyntiau y tro yma oedd dwy gân eang, eu sain o’r enw Pfeiffer and the Whales ac Atlas. A’r nodau’n codi rhwng colofnau gosgeiddig yr eglwys gadeiriol, roedd yr awyrgylch yn ymylu ar yr ysbrydol.
Ollie Holland (llun: Rob Froud)
Pan fydd bandiau jazz modern fel yna yn eu hwyliau, mae’r hen batrymau o unawdau a chyfeiliant yn cael eu colli beth … yn hytrach nag un ar y blaen a’r lleill yn cadw amser, mae’r cerddorion i gyd yn mynd amdani, yn cyfansoddi ar y cyd.
Drymiwr felly ydi Ollie Howell, un o gyn fyfyrwyr y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd, sy’n dangos dylanwad y sefydliad hwnnw, wrth greu to o gerddorion sy’n aml yn aros yng Nghymru.
Yn Llundain y mae Ollie Howell erbyn hyn ac mae ei greadigrwydd diorffwys wrth y drymiau – yn creu patrymau rhyddmig gwahanol y tu cefn i bob cân yn dangos y bydd yn mynd ymhellach.
Ac roedd yna ragor … o osodiadau difyr y band Cymraeg Burum o ganeuon gwerin, i roc trwm triawd o’r enw Troyka ac i biano deallus yr hynafgwr John Taylor …
John Taylor (llun: Rob Froud)
Ond merch fach groenddu dair oed oedd seren y sioe.