Robin Williams
Mae’r actor Robin Williams wedi cael ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yng Nghaliffornia.
Mae’r heddlu’n amau ei fod wedi lladd ei hun.
Roedd Robin Williams, a oedd yn 63 mlwydd oed, yn adnabyddus am actio mewn ffilmiau fel ‘Good Morning, Vietnam’ ‘Hook’ a ‘Mrs Doubtfire’.
Roedd wedi bod yn dioddef o iselder difrifol yn ddiweddar, yn ôl llefarydd ar ran yr actor.
Dywedodd ei wraig, Susan Schneider, mewn datganiad: “Y bore yma, rwyf wedi colli fy ngŵr a fy ffrind gorau, tra bod y byd wedi colli un o’i artistiaid mwyaf annwyl.”
Meddai’r heddlu fod ymchwiliad i “achos, dull, ac amgylchiadau’r farwolaeth ar y gweill ar hyn o bryd.”
Mae disgwyl i archwiliad fforensig gael ei gynnal heddiw, gyda phrofion tocsicoleg yn cael eu cynnal yn ddiweddarach.
Mae’r heddlu wedi dweud y byddan nhw’n cynnal cynhadledd i’r wasg yn hwyrach mlaen heddiw.
Daeth Robin Williams i enwogrwydd yn yr 1970au hwyr fel cymeriad o blaned arall yn y gyfres deledu gomedi ‘Mork & Mindy’. Ond roedd yn gallu actio rhannau difrifol hefyd ac enillodd Oscar yn 1998 am ei rôl yn ‘Good Will Hunting’.
Teyrngedau
Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi iddo bore ma gan yr Arlywydd Obama, Steven Spielberg a Steve Martin ymhlith eraill.
Bu’r Arlywydd yn arwain y teyrngedau i’r actor poblogaidd.
Meddai: “Roedd Robin Williams yn awyrennwr, meddyg, genie, nani, Arlywydd, athro, Peter Pan arbennig, a phopeth yn y canol. Ond yr oedd o hefyd yn unigryw.
“Mae’r teulu Obama yn cynnig ein cydymdeimlad i deulu Robin, ei ffrindiau, a phawb a ddaeth o hyd i’w llais diolch i Robin Williams.”
Meddai Steven Spielberg, a weithiodd gyda Williams ar y ffilm ‘Hook’: “Roedd Robin yn storm fellt o athrylith gomig a’n chwerthin ni oedd y taranau oedd yn ei gynnal o. Roedd o’n ffrind ac alla’ i ddim credu ei fod o wedi mynd.”
Dywedodd Steve Martin, a ymddangosodd ochr yn ochr a Williams mewn cynhyrchiad theatr o ‘Waiting for Godot’ yn 1988 ei fod yn “enaid diffuant.”
Dywedodd Jonathan Ross, sydd wedi cyfweld yr actor, bod ei farwolaeth yn “golled drychinebus.”
Ac meddai Kevin Spacey, a oedd wedi actio gyda Robin Williams: “Dyn mawr, artist a chyfaill. Byddaf yn hiraethu amdano tu hwnt i fesur….”
‘Dyn annwyl’
Roedd Ceri Evans Cooper o Ynys Môn yn oruchwyliwr sgript ar y ffilm ‘Good Morning, Vietnam’ pan dreuliodd bron i hanner blwyddyn ym Mangkok yng nghwmni Robin Williams.
Roedd hi’n siarad ar y Post Cyntaf y bore ma pan ddywedodd pa mor drist oedd y newyddion.
Meddai: ”Mi oedd o’n ddyn distaw – dim mor swnllyd ag y mae o’n ymdmdangos ar ffilm. Roedd o’n ddyn annwyl oedd yn ffeind ac yn glên hefo pawb oedd o’n dod ar eu traws nhw, dim ots pwy oeddan nhw.”