Ai dyma oedd y lle i fod?
Iolo Cheung sydd yn chwilio am y lle delfrydol yn gigiau penwythnos yr Eisteddfod …

Dw i bellach wedi cyrraedd rhyw oed anghyfforddus pan mae’n dod at yr Eisteddfod.

Nid o ran mynychu – a finnau’n 23 oed dwi wedi casglu stamp ambell un yn barod, a llawer mwy i ddod mae’n siŵr (ac yn gweithio yno eleni beth bynnag).

Y ddilema, yn hytrach oedd hyn – ydw i’n mynd yn rhy hen i Faes B bellach?

Mae’r arlwy gerddoriaeth mor eang bellach o gwmpas yr Eisteddfod fel bod yn rhaid dewis yn ofalus beth i’w wneud gyda’r nos. Ai bandiau Maes B fydd hi, ydach chi’n aros ar y maes yn hwyr ar gyfer yr hen stejars, mynd fewn i’r dre ar gyfer gig Cymdeithas – neu jyst sesh yn Llanelli?

Ar y penwythnos olaf fe benderfynon ni aros ar y maes i wylio perfformiadau Bryn Fôn ar y nos Wener, a Mynediad Am Ddim nos Sadwrn, cyn taro draw am y babell swnllyd yng nghanol cae y tu allan i Borth Tywyn.

Torf fawr i Bryn

Rhaid dweud, roedd hi’n benwythnos da iawn o ran cerddoriaeth. Roedd hi’n teimlo fel petai torf enfawr Edward H yn slot nos Wener y llynedd wedi codi disgwyliadau, ac felly prin y gallech chi ddewis perfformiwr cystal i geisio efelychu hynny na’r hen Bryn.


Bryn Fôn yn diddanu nos Wener
Mae’n 60 eleni ond yn parhau i fod yn ‘box office’ pan mae’n dod at y gigiau Cymraeg, a wnaeth o ddim siomi’r dorf wrth i’w hen glasuron ef a Sobin gael eu beltio allan unwaith eto.

Da oedd gweld hefyd fod ei gerddoriaeth yn parhau’n boblogaidd ymysg pob cenhedlaeth, gyda’r rhan fwyaf o’r dorf oedd yn y ffrynt yn bobl ifanc (ac i gyd o Gaernarfon, o weld y dwylo aeth fyny pan ofynnodd Bryn lle’r oedd y Cofis!).

Chafodd ei ganeuon newydd ddim cymaint o ymateb, ond roedd hynny i’w ddisgwyl – roedd ffans Bryn yn gwybod beth maen nhw yno i’w glywed, a ddim am fynd adra’n hapus tan roedden nhw wedi cael yr encore o Abacws.

Roedd hi’n braf mwynhau’r awyrgylch ar y maes ar ôl i’r gig orffen hefyd, gyda channoedd yn aros a morio canu, a thasai ddim gennym ni rywle i fynd byddwn i wedi bod yn ddigon hapus yn aros yno drwy’r nos.

Mwynhau Maes B

Ond i Faes B amdani, a hithau eisoes yn mynd yn hwyr dim ond jyst dal diwedd set Al Lewis wnaethon ni.

Dwi’n edmygu stwff Al Lewis, rhaid deud, ac er bod ei fiwsig o’n taro rhywun fe petai’n gweddu mwy ar gyfer llwyfan awyr agored pnawn Sadwrn y maes, dyna lle’r oedd o’n notcho pethau fyny ‘chydig, a’r dorf i’w gweld yn mwynhau’n fawr.

Fe orffennodd y noson gyda Bandana, sydd yn hen gyfarwydd chwarae i’r gynulleidfa yma bellach ac a ddangosodd hynny efo set digon egnïol – mae Heno Yn Yr Anglesey yn ffefryn personol i mi a wnaethon nhw ddim siomi.

Doedd gigiau Maes B ddim mor llawn ag yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl, ond roedd hi’n arwydd da o leiaf fod yr ychydig o gannoedd oedd yno ar y cyfan yn ymgasglu o gwmpas y llwyfan yn hytrach na rownd y bar.

Roedd pethau bach fel yr arwyddion wedi’u goleuo hefyd yn ychwanegu at yr atmosffer oedd yn sicr yn teimlo fel gŵyl gerddorol – nid yn annhebyg i’r fflagiau a ychwanegodd liw i faes llwyfan y prif faes.

Glaw a gwifrau’n tarfu

Nôl ar y maes roedden ni ddydd Sadwrn felly (ac Al Lewis yno’n diddanu’r dorf ganol pnawn) yn edrych ymlaen at Dai Sgaffalde a’r criw ar y llwyfan nes ymlaen.

Roedd y dorf o ryw 4,000 a gafodd Bryn Fôn y noson gynt o leiaf dwbl maint yr un oedd yno i wylio Mynediad Am Ddim ar y nos Sadwrn, ‘sŵn i’n tybio, er bod y tywydd gwael wedi chwarae rhan yn hynny.

Rhaid i mi gyfaddef, dydw i ddim mor gyfarwydd â cherddoriaeth Mynediad Am Ddim ag oeddwn i gyda thiwns y noson flaenorol, ac o edrych o gwmpas roedd hi’n edrych fel petai llai o fy nghyfoedion hefyd.

Serch hynny roedd hi’n set dda, ac eithrio’r saib gorfodol am ryw bymtheg munud oherwydd power cut roddodd esgus i Gwilym Bandana ddechrau singalong o dan do’r byrddau picnic bwyta.

Ond gyda llai yno ac yn aros o gwmpas ar y diwedd roedden ni’n fwy awyddus i daro draw i Faes B yn gynharach – a phenderfyniad penigamp oedd hwnnw.

Ywz yn ôl

Fe gyrhaeddon gydag Yws Gwynedd newydd ddechrau ei set, ac ar ei ymddangosiad cyntaf yn ôl ym Maes B ers ‘ymddeol’ doedd dim arwydd o gwbl ei fod o wedi’i cholli hi.

Fe ddiddanodd y dorf drwy gydol, gan gymysgu’i ganeuon newydd gydag ambell glasur Frizbee fel Heyla a ‘Da Ni Nôl  – i mi, perfformiad gorau’r penwythnos.

Mae’r gân ‘Sebona Fi’ yna di bod yn mynd rownd fy mhen i ers deuddydd rŵan – doeddwn i ddim yn ffan fawr ohoni y tro cynta’ glywais i hi ar y radio, ond dwi wedi fy nhrosi bellach.


Sŵnami'n gorffen y noson
‘Da chi’n aml yn clywed bandiau sydd ddim cweit cystal yn fyw na phan glywch chi nhw ar y tonfeddi neu ar CD, ond mae Ywain Gwynedd 2.0 yn sicr yn mynd yn groes i’r trend yna.

Fe gymrodd set ‘Ywz’ ychydig o’r gwynt allan o hwyliau Endaf Gremlin, oedd yn eu dilyn, gyda’r dorf ddim fel petai nhw cweit mor egnïol (nac yn gwybod y caneuon cystal).

Ond fe bigodd pethau fyny efo Sŵnami i orffen, er mai’r gân fwyaf cofiadwy o’u set nhw oedd cameo Casi Wyn ar gyfer deuawd hyfryd Adar Y Nefoedd.

Dwi ddim yn rhy hoff o’r DJio ar ddiwedd y gigs Maes B yma, felly nôl a ni i’r Gorlan am dost neu dri cyn taro nôl am y B&B (sori, ond do’n i ddim am slymio hi mewn pabell ‘di torri yn y glaw afiach na!).

Maes B Meifod amdani

Os oeddwn i’n dechrau meddwl mod i’n mynd yn hen i Faes B (ac mae pobl ieuengach na fi wedi meddwl hynny hefyd!) yna’r wers o’r penwythnos hwn oedd nad oes rhaid i mi boeni.

Fe fwynheais i’r gigs ar y maes a’r awyrgylch o gwmpas hynny wedyn, ac mae ‘na blant oedd dal yn yr ysgol gynradd pan nes i adael yr ysgol uwchradd yn rhedeg rownd Maes B bellach sydd yn gwneud i rywun deimlo’n hen.

Ond mae gen i ddigon o amser i fwynhau gweddill yr arlwy Eisteddfodol, felly man a man i mi fanteisio ar fwrlwm y lle tra mod i dal yn medru!