Fe wyddoch, erbyn hyn, fy mod i’n ddyn hynod o ddiwylliedig. Yn wir, mae’n ddirgelwch i mi pam nad wyf yn Archdderwydd. Gallaf ond meddwl fod y llythyr wedi mynd ar goll yn y post.

Ta waeth. Un gangen o’r celfyddydau sy’n hollbwysig i mi yw cerddoriaeth. Rwyf wrth fy modd, felly, gyda’r arlwy o raglenni a gynigir gan BBC2 a BBC4 yn olrhain hanes amrywiaeth o berfformwyr.