Roeddwn i’n bwriadu mynd draw i’r Eidal i wylio Geraint Thomas yn y Giro d’Italia yr wythnos yma. Ond fel Geraint ei hun, roedd rhaid i fi aros o flaen y teledu yng Nghymru i weld y finale hanesyddol yn Milan. Ar ddechrau’r diwrnod olaf, ar ôl dros 85 awr o rasio dros dair wythnos, roedd yna lai nag eiliad rhwng Jai Hindley o Awstralia a Tao Geoghegan-Hart o Lundain. Hon oedd y ras agosaf yn hanes seiclo.