Mae’r dieflig Dew wedi diflannu eto! Mwy na thebyg am y tro ola’. Wedi pythefnos a mwy ar dramp yn rhywle, rwy’n amau ddaw e’n ôl nawr.

Ry’n ni’n tybio, wrth gwrs, fod e wedi cael cartre’ gan rywun mwy naïf na ni.

Fyw ichi godi’r posibilrwydd o farwolaeth, er bod hynny hefyd yn fwy na phosib.

Felly gadewch i ni daro llyged yn ôl ar rai o uchafbwyntiau ei gyfnod preswyl – ‘Cat in Residence’ – yn ein plith.