Mae’n fore dydd Llun ar ôl yr Eisteddfod unwaith eto, a llawer mae’n siŵr yn dal i geisio dadflino ar ôl wythnos hir yn Llanelli.

Felly i godi’ch ysbryd chi ar fore llwm, dyma ddetholiad o luniau Sion Richards i golwg360 o faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Os oeddech chi’n un o’r 143,502 o bobl a aeth drwy’r giatiau yn ystod yr wythnos, dyma gyfle i chi ailfyw rhai o’r uchafbwyntiau (a gweld os allwch chi ffeindio’ch hun yn yr Orsedd, wrth y bar neu ym Maes B!).

Ac i’r rheiny ohonoch chi oedd ddim yn ddigon ffodus i fod yno, wel, efallai y gwnaiff eich ysgogi chi i fynd am Feifod y flwyddyn nesaf!

Cofiwch gymryd cip yn ôl ar rai o brif straeon a digwyddiadau’r wythnos yn adran Eisteddfodau golwg360. Fe allwch chi hefyd wylio’n holl gynnwys fideo a chyfweliadau o’r maes ar ein sianel YouTube, a gwrando nôl ar ein podlediadau o Lanelli ar ein tudalen Soundcloud.


Created with flickr slideshow.