Daf Prys
Anghofiwch lwyddiant Hedd Wyn – mae hwnnw yn y gorffennol, ac mae’n bryd dathlu cynnwys cyffrous y sgrin yn yr iaith Gymraeg heddiw.

Dyna yw neges Daf Prys, wrth iddo adolygu’r gêm gyfrifiadur gyntaf yn y Gymraeg ar gyfer Fideo Wyth golwg360, sef Enaid Coll/Master Reboot.

Byd rhith sydd yn Enaid Coll, bel mae modd i’r chwaraewr uwchlwytho eu hatgofion a’u mwynhau am byth – hynny yw, tan i rywbeth fynd o’i le yn y Cwmwl, gyda’r chwaraewr wedyn yn gorfod datrys nifer o bosau er mwyn darganfod y gwirionedd.

Mae’r gêm yn un sydd yn arwain y chwaraewr i fyd absẃrd ble mae’r ffin rhwng realiti a dychymyg yn un aneglur – rhywbeth tebyg i waith Gwenlyn Parry, yn ôl Daf!

Gwyliwch Fideo Wyth diweddaraf Daf Prys yma: