Joanne Thomas
Roedd mam a’i merch fach, oedd yn hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol, wedi bod yn farw am o leiaf wythnos cyn i’w cyrff gael eu darganfod, clywodd cwest heddiw.
Roedd Joanne Thomas wedi cael ei darganfod yn ei gwely, ochr yn ochr â’i merch pedwar mis oed, Harper, yn eu cartref yn Nhroedyrhiw ger Merthyr Tudful fis Gorffennaf diwethaf.
Dywedodd gweithiwr cymdeithasol wrth y crwner, Andrew Barkley, ei fod wedi ceisio ymweld â Joanne Thomas ar dri achlysur cyn y daethpwyd o hyd iddyn nhw.
Roedd hefyd wedi anfon llythyrau ac wedi ceisio cysylltu â’i theulu.
Cafodd y fam a’i merch eu hadnabod maes o law trwy gofnodion deintyddol a phrofion DNA – a dywedodd y patholegydd ei fod yn “amhosibl” dweud pwy fu farw gyntaf.
Clywodd y crwner hefyd bod Joanne Thomas wedi bod yn teimlo’n sâl yn yr wythnosau wnaeth arwain at ei marwolaeth, ac fe allai fod wedi bod yn chwydu gwaed.
Cofnodwyd rheithfarn agored.