Mae athrawes yn ysgol gynradd Glannau Gwaun yn Abergwaun wedi marw mewn damwain ffordd y bore ‘ma.
Digwyddodd y ddamwain rhwng dau gar ger Dinbych-y-pysgod a phentref Scleddau yn Sir Benfro.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i’r safle toc wedi 8 y bore ‘ma, ar ôl derbyn adroddiadau bod Mini Cooper glas a Volkswagen Golf llwyd wedi gwrthdaro ar y A40 tu allan i Ddinbych-Y-Pysgod.
Cafodd y dyn a oedd yn gyrru’r Volkswagen ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys yn Abertawe gydag anafiadau difrifol ond nid yw ei fywyd mewn perygl.
Mae Cyngor Penfro wedi penderfynu cau ysgol gynradd Glannau Gwaun yn Abergwaun “yn dilyn marwolaeth drasig aelod o’r staff mewn damwain bore heddiw.”
Mae disgwyl i’r ysgol ail agor bore fory yn ôl llefarydd ar ran y sir.
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a oedd yn teithio ar yn yr ardal rhwng 7.30 a 8.10 bore ma i gysylltu gyda nhw ar 101.
Teyrnged i ‘athrawes arbennig’
Wrth roi teyrnged i’r athrawes, Catrin Vaughan, dywedodd pennaeth Ysgol Glannau Gwaun, Irwyn Wilcox bod staff a disgyblion yr ysgol wedi’u “tristau yn fawr o glywed am ei marwolaeth drasig.”
“Roedd yn athrawes arbennig, gydwybodol a gofalgar a oedd yn ennyn parch y disgyblion, rhieni a’i chydweithwyr trwy ei gwaith caled a’i phersonoliaeth lawen ac addfwyn.”
Fe fydd llyfr yn nerbynfa’r ysgol ar gyfer y rhai hynny sydd am roi teyrnged iddi, meddai.