Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad y tu allan i ysgol yn Aberteifi ddoe.
Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi cynnal ymchwiliad ar ôl derbyn adroddiadau am blentyn yn sgrechian mewn car y tu allan i Ysgol Uwchradd Aberteifi bore dydd Llun.
Dywedodd yr heddlu heddiw eu bod nhw bellach wedi arestio dyn lleol mewn cysylltiad ag ymosodiad ac nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Maen nhw wedi diolch i’r cyhoedd am eu help yn ystod yr ymchwiliad.