Fe all bron i 150 o bobol golli eu swyddi wrth i gwmni bwyd yn Sir y Fflint gau ei ffatri.
Mae Creative Foods yn ystyried cau eu ffatri yn Stad Ddiwydiannol Parc Aber o ganlyniad i “ddirywiad hir dymor yn y diwydiant”.
Fe fydd cyfnod ymgynghorol rŵan yn cael ei gynnal tan fis Mai ac os bydd y ffatri yn cau, byddai’n golygu bod 149 o swyddi yn diflannu.
Mae Creative Foods yn creu prydau parod i’w rhoi yn y rhewgell ac mae ganddyn nhw ddwy ffatri yn Y Fflint a Dyfnaint sy’n cyflogi 300 o weithiwyr.
‘Anymarferol’
Dywedodd cyfarwyddwr Creative Foods, Kevin Coles mewn datganiad: “Ar ôl cynnal adolygiad o’n busnes gwneud bwyd, ac o ystyried y dirywiad hir dymor yn y diwydiant, rydym wedi dod i’r casgliad y gall cadw ffatri Creative Foods yn y Fflint yn agored fod yn anymarferol.
“Mae bwriad i gau’r ffatri ac rydym wedi cychwyn y broses ymgynghorol a fydd yn dod i ben ym mis Mai 2014.
“Byddem yn gwneud pob ymdrech i gefnogi ein cyd weithwyr yn y cyfnod anodd yma.”
‘Siomedig’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae hyn yn newyddion siomedig iawn.
“Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn trafodaeth gyda’r cwmni ar hyn o bryd i archwilio’r holl opsiynau sydd ar gael i sicrhau dyfodol y safle ac i ddiogelu’r swyddi yma yn y Flint.”