Bydd taliadau a wneir gan gwmnïau ynni i aelwydydd sy’n collie u cyflenwad trydan yn ystod tywydd garw yn dyblu dan gynigion newydd gan y rheoleiddiwr, Ofgem.
O dan y cynlluniau, byddai’n rhaid i Weithredwyr y Rhwydwaith Dosbarthu (DNO) gynyddu eu taliadau i £70 os nad ydynt yn cyrraedd y lefel isaf o wasanaeth yn ystod tywydd garw.
Byddai’r cap ar gyfer taliadau sy’n cael ei wneud i gwsmeriaid yn cynyddu o £216 i £700 a byddai taliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig pan fo hynny’n bosibl.
Mae Ofgem hefyd am weld y broses hawliadau yn cael eu symleiddio.
Dywedodd Ofgem y bydd y newidiadau arfaethedig yn gwneud i gwmnïau weithredu’n gynt ac adfer y cyflenwad i gwsmeriaid cyn gynted ag y bo modd.
Dywedodd Hannah Nixon o Ofgem: “Mae llawer o rannau o Brydain wedi gweld tywydd eithafol dros yr ychydig fisoedd diwethaf ac mae Ofgem wedi bod yn edrych ar sut mae helpu defnyddwyr sy’n wynebu collie u cyflenwad trydan yn y sefyllfaoedd hyn.
“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod defnyddwyr yn cael gwasanaeth trydan dibynadwy.”
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am wyth wythnos a bydd Ofgem yn cyhoeddi ei benderfyniad erbyn 1 Gorffennaf.