Mae Prif Weinidog Cymru wedi datgan ei gefnogaeth i ymgyrch sy’n ceisio cael fersiwn o Newsnight i Gymru, yn ddrych i Newsnight Scotland sydd eisoes ar gael ar BBC2.
Gwnaeth Carwyn Jones y datganiad yn NewsUK Academy – digwyddiad i annog pobol ifanc i ddilyn gyrfa mewn newyddiaduriaeth yng Nghaerdydd ddoe.
Cafodd yr ymgyrch ei lansio ym mis Ionawr yn galw ar y BBC i sefydlu Newsnight Wales yn ogystal â darparu rhaglen Newsnight Cymru yn Gymraeg ar S4C, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Roedd ymgyrchwyr yn gofyn i bobol ledled Cymru a thu hwnt i lofnodi deiseb ac, yn ôl llefarydd, mae bellach wedi derbyn cefnogaeth o gyfeiriad y pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru.
Mae Sian Beynon Powell o Ymgyrch Newsnight Cymru yn croesawu’r gefnogaeth a roddodd y Prif Weinidog i’r ymgyrch:
“Mae’r datganiad yn dangos fod consensws o blith y pleidiau fod angen am raglen o’r fath ar Gymru er mwyn rhoi cyfle i etholwyr Cymru graffu ar yr holl benderfyniadau sy’n cael eu gwneud am Gymru” meddai.