Gruff Rhys
Mae Gruff Rhys wedi ei ychwanegu at y rhestr o enwau fydd yn perfformio ar lwyfan Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yr haf hwn.
Bydd cyn-ganwr y Super Furry Animals yn perfformio stori antur o’r enw I Grombil Cyfandir Pell – prosiect unigryw sy’n adrodd stori wir am ei berthynas pell John Evans, y teithiwr o’r 18fed ganrif.
Yn ôl y sôn, fe aeth John Evans draw i Baltimore yn 1792 i chwilio am lwyth coll o Americanwyr oedd yn siarad Cymraeg, ac roedd Gruff Rhys yn awyddus i olrhain ei daith saith mlynedd a dod o hyd i’w fedd.
Bydd yn ymuno â llu o dalentau eraill o Gymru yn cynnwys yr artist pop Charlotte Church; y DJ Radio 1 a Radio Cymru Huw Stephens; a Cate Le Bon – sy’n hanu o Sir Gâr.
Mae Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn dychwelyd i Landeilo ar 20-22 Mehefin.
Bydd y penwythnos yn cynnwys digwyddiadau yn yr iaith Gymraeg a Saesneg, gydag awduron Cymreig yn cynnwys: Cynan Jones; Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru; Deborah Kay Davies, enillydd Llyfr y Flwyddyn 2009; Bethan Gwanas; Angharad Tomos a’r cyflwynydd Beti George.
Mae rhestr lawn i’w gweld ar wefan yr ŵyl: www.gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk <http://www.gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk>