Rhybudd: Mae’r darn yma’n trafod ail bennod ‘35 Diwrnod’ ar S4C. Peidiwch â’i ddarllen os nad ydych chi wedi gwylio’r bennod.

Ciron Gruffudd sydd wedi bod yn gwylio…

Llai na mis i fynd nes bydd Jan yn cael ei lladd ond, wedi’r ail bennod, dy’n ni ddim nes at ddarganfod pwy fydd yn ei llofruddio na llawer o ddim byd arall chwaith a dweud y gwir.

Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i fel arfer yn hoff iawn o ddramâu sy’n llosgi’n araf gan ddatgelu cyfrinachau ar hyd y ffordd ond am ryw reswm dyw ’35 Diwrnod’ ddim yn taro deuddeg hyd yma.

Efallai bod hynny oherwydd ein bod ni eisoes yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd yn y diwedd a bod hynny wedyn yn tynnu dipyn o’r dirgelwch o’r rhaglen. Neu, efallai fod ’na rheswm symlach: mae o jyst yn ddiflas.

Rhywbeth arall dwi wedi sylwi yw bod ’35 Diwrnod’ yn teimlo’n hen ffasiwn iawn. Yn enwedig teulu Gruff, Beti a Ben.

Ugain mlynedd yn ôl, mi fyswn i’n deall bod dynes o’r un oed a Beti yn galw ei gwr a’i mab yn “chi”. Ond yn 2014, tydi o ddim yn swnio’n realistig ac mae o’n mynd o dan fy nghroen i ryw ychydig.

Pwy yw Jan?

Yr wythnos hon fe wnaethon ni gyfarfod Jan, y ddynes fydd yn cael ei llofruddio ymhen 29 diwrnod. Ond beth wnaethon ni ddysgu amdani?

Mae hi’n honni ei bod hi’n gweithio i gwmni awyrennau – ond dwi wedi gweld digon o ddramâu i beidio coelio hynny nes fy mod i’n ei gweld hi ar awyren, 20,000 o droedfeddi yn yr awyr, wrth ei gwaith pob dydd.

Mae hi hefyd yn hoff iawn o edrych ar luniau, fel dywedodd hi yn y parti, ac mae hi’n ymateb yn wael iawn os ydy rhywun yn gwrthod paned ganddi.

Ar wahân i hynny, mae’r cymeriad yn parhau i fod yn annelwig ond fe allwn ni ddyfalu nad yw hi yno i aros, ond yn hytrach, wedi symud i Crud yr Awel am reswm arbennig – mae gwacter y tŷ yn gwneud hynny’n amlwg. Symbol am ba mor wag yw ei bywyd hi o bosib?

Y lleill

Stori fawr yr wythnos oedd Gruff yn cael ei blacmelio gan rywun o’r enw Ceridwen –  fel y wrach yn llyfrau Rala Rwdins. Roedd perfformiad Wyn Bowen Harries fel Gruff yn dda iawn ond pwy sydd wedi mynd ati i’w dwyllo?

Mae trigolion Crud yr Awel hefyd yn dda iawn am gymdeithasu gyda’i gilydd. Roedd ‘na barti i ddathlu priodas wythnos diwethaf ac un arall i ddathlu pen-blwydd Jac yn 18 oed  wythnos yma.

Mae’n amlwg bod Richard yn dod i’w thŷ wedi effeithio Jan ond beth yw’r cysylltiad? Mae’r ffaith ei bod hi wedi dwyn ac arogli un o’i deis o, hefyd yn awgrymu bod ganddo rywbeth i’w guddio.

Perfformiad da arall gan Eiry Hughes sy’n actio rhan Caroline. Dwi ddim yn licio’r ddynes o gwbl – mae hi’n ddiog, yn hunanol a phlentyniadd iawn. Ond, fe wnes i fwynhau’r datguddiad nad yw ei pherthynas hi gyda Tony mor syml ag oedden ni’n ei feddwl i ddechrau.

Person amheus yr wythnos

Unwaith eto,  fe all unrhyw un o’r cymeriadau gael eu dewis ond mae’r wobr yr wythnos hon yn mynd i Tony. Mae’r dyn yn fwy slei na llwynog sy’n gweithio i MI5 ond nes i fwynhau’r olygfa ble roedd o’n codi pwysau yn y garej – atgoffa fi o Kevin Spacey yn American Beauty.

Moment yr wythnos

Ydw i’n gywir wrth ddweud fy mod i wedi clywed cân gan Steve Eaves yn cael ei chwarae yn y cefndir yn ystod y parti? Yr unig dro erioed i un o’i ganeuon o gael ei chwarae mewn parti pen-blwydd 18, am wn i.