Bydd y band Kids in Glass Houses yn chwarae yng ngŵyl FOCUS Wales yn Wrecsam ym mis Ebrill fel rhan o brosiect Gorwelion.
Dyma fydd un o’r cyfleoedd olaf i weld Kids in Glass Houses yn perfformio’n fyw yn dilyn y cyhoeddiad y byddant yn gwahanu ar ôl taith ym mis Hydref.
Ers dros ddegawd mae’r pumawd o Gymru wedi bod yn un o enwau mawr roc yng Nghymru a thu hwnt, ac maent wedi rhyddhau pedair albwm yn ystod eu gyrfa.
Bydd y band yn chwarae mewn warws yng nghanol Wrecsam a dyma’r llwyfan gyntaf i gael ei threfnu gan gynllun cerddorol newydd Gorwelion.
Mae prosiect Gorwelion, sy’n cael ei redeg ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn chwilio am 12 o artistiaid newydd i’w cefnogi yn ystod y flwyddyn nesaf.
Bydd yr artistiaid llwyddiannus yn cael cyfle i berfformio mewn digwyddiadau a gwyliau ar draws Cymru ac yn cael eu cerddoriaeth wedi ei chwarae ar orsafoedd Radio Cymru a Radio Wales.
Meddai cynhyrchydd Gorwelion a chyflwynydd Radio Wales Bethan Elfyn:
“Dwi wrth fy modd bod Kids wedi cytuno i chwarae mewn sioe mor arbennig cyn iddyn nhw roi’r gorau iddi. Bydd yn eithriadol o gyffrous cael bod mor agos atyn nhw, dwi’n ddiolchgar i’r grŵp am wneud hyn i’n helpu i lansio’r talentau newydd sy’n dod i’r amlwg fel rhan o Gorwelion.”
Dyma’r 4ydd tro i ŵyl FOCUS Wales gael ei chynnal a bydd y prif berfformwyr eleni’n cynnwys Georgia Ruth, Euros Childs, a 150 o fandiau eraill. Bydd y bard pync John Cooper Clarke hefyd yn perfformio yn yr ŵyl.
Am ragor o wybodaeth am docynnau FOCUS Wales, ewch i focuswales.com