PS4
Wrth i’r cyfryngau fanylu ar y genhedlaeth newydd o ‘consoles’ sydd ar y gweill, yr Xbox One (22 Tachwedd) a’r PlayStation 4 (29 Tachwedd), mae blogiwr technoleg Golwg360 Dafydd Prys wedi, wel, cyffroi ychydig.

Mae ‘na lawer o ffwdan wedi ei sgwennu yn ddiweddar ar allu graffegol y ddau beiriant newydd, gyda disgwyliadau uchel. Mae’r PS4 wedi taro’r nod gyda’r gemau cynnar, ond mae’n stori wahanol ar yr Xbox.

‘Resolutiongate’

Ar eich teledu sgrin fflat sy’n eistedd yng nghornel yr ystafell fyw adref mae’r sgrin ei hun wedi ei greu o linellau o ‘pixels’. Sgwâr bach yw pixel sy’n newid lliw gyda’r angen, ac, efo’r holl pixels eraill sydd ar y sgrin, dyma sy’n creu pa bynnag ddarlun sy’n ymddangos.

Ar eich teledu chi (os yw wedi’i brynu yn y pum mlynedd diwethaf), mae  1080 llinell o rhain yn rhedeg i lawr, a 1920 yn rhedeg ar draws. Er hynny, yn y genhedlaeth ddiwethaf, mae’r rhan fwyaf o wneuthurwyr gemau wedi bod yn adeiladu eu gemau wedi ei seilio ar 720 o linellau gan nad oedd gan y ‘consoles’ y pŵer i redeg y fath wybodaeth i lenwi 1080.

Y gwahaniaeth ar gyfer y genhedlaeth newydd yw fod pawb yn credu fod gan y ‘consoles’ y cyhyr i weithredu gemau efo 1080 o linellau. Tra bod PS4 wedi bod yn gwneud hyn, dyw’r Xbox newydd ddim.

Ych-a-fi medd sawl sylwebydd ac ych-a-fi medd sawl gwyliwr. Ffwdan. Ffws. Ffradach.

Wele yma am esboniad fwy cynnil:

Wedi drysu?

Ond, os ydych chi wedi colli diddordeb  yn llwyr yn y wybodaeth uwchlaw chi mewn cwmni da iawn. Y gymhariaeth orau i mi yw i ddarllen llyfr – mae pawb yn derbyn yr un profiad ac yr un stori ond mae gan un llyfr LLYTHRENNAU GWELL na’r llall.

Dyma Richard Leadbetter o Digital Foundry yn trafod  Resolutiongate.

Y drafferth mawr yn y byd yma yw bod teimlad o ffafriaeth tuag un dyfais, neu gwmni o leia’. Mae enw am hyn sef ‘brand loyalty’, gyda chwmnïau megis Apple a Waitrose wedi perffeithio’r gamp.

Mae’n debyg i’r cysyniad o gefnogi tîm pêl-droed – un chi yw’r gorau dim ots be sy’n digwydd. Ar y cyfan mae’r meddylfryd yma yn tarddu, yn enghraifft byd gemau cyfrifiadurol, o’r ffaith bod sawl unigolyn sy’n ymddiddori yn cychwyn yn ifanc iawn, ac y rhan fwyaf yn fechgyn.

Ond yn hytrach nag anwybyddu’r tensiwn, mae’r wasg arbenigol sy’n trafod gemau cyfrifiadurol yn siapio llawer o’u herthyglau yn gelfydd i wneud yn siŵr fod y dadlau yn parhau. Mae’n help mawr iawn i werthu cylchgronau/gyrru cliciau ar ei gwefannau – ‘flamebait’ – ac ond angen aros i unigolion brwdfrydig lenwi’r fforymau oddi tano.

Traed newydd yn troedio hên lwybr

Dyw hwn ddim yn sefyllfa newydd. Ers yr wythdegau ‘da ni wedi cael brwydrau megis Spectrum vs. Commodore, Atari vs. Nintendo, Nintendo vs. Sega, Nintendo vs. Sony, Nintendo vs. Sony vs. Microsoft (a PC versus PAWB!).

Oes dehongliad pellach ond am fod pobl yn wirion ac eisiau bod yn rhan o’r tylwyth cryfaf, mater o gaill-frwydr? Beth bynnag y rheswm mae un peth yn glir – mae’r maes y gad yma yn cynnig gwasanaeth ffafriol i ni sy’n gobeithio am systemau a gemau gwell wrth i’r blynyddoedd basio.

Mewn marchnad pur gyfalafol, mae cystadleuaeth rhwng cwmnïau’n gorfodi profiadau gwell tra’n cadw costau i lawr (yn llwyr i’r gwrthwyneb yn anffodus pan mae’n dod i systemau cyfalafol adnoddau gwres a thrydan!) sy’n golygu fod y peiriannau yn gwella o hyd, hyd yn oed dros gyfnod eu bodolaeth.

Mae’r Playstation 3 wedi derbyn pum peiriant gwahanol hyd yn hyn, tra bod yr Xbox 360 ar ei bedwerydd, oll yn gwella’n raddol. Felly mae’n anodd iawn cwyno dros ymddygiad plentynnaidd os yw’n gorfodi gwasanaeth, peirannau a gemau gwell.

Doedd neb er enghraifft, yn disgwyl i’r PS4 gario 8GB GDDR5 RAM, cam ganddynt er mwyn *bod yn well* na’r Xbox One, sydd nawr yn gweithio o’u plaid gan mai dyma beth sy’n galluogi iddynt rhedeg y gemau gyda ‘resolution’ uwch.

Mewn termau economaidd mae cwmnïau gwneuthurwyr ‘consoles’ wedi troi eu cefn ar syniadau marchnad economaidd Nash, ble mae cysyniad o rannu’r farchnad er mwyn sicrhau canran hafal i’r cyfalafwyr, fel eu bod yn dominyddu yr ecosystem.

Mae’n dangos i fi fod y gwneuthurwyr yr un mor dylwythog a’u dilynwyr, ac efallai mai dyma ble mae tannau’r gynulleidfa  – y brand loyalty – yn cael eu taro, yn hytrach na’r gynulleidfa’n siapio’r farchnad.

I’r rheiny sy’n cofio amser pan oedd gan Nintendo 90% o’r farchnad yn yr wythdegau hwyr a nawdegau cynnar, dyw’r ymgais i feddiannu’r un canran gan y dilynwyr ddim yn rhywbeth sy’n peri sioc.

Stori Nintendo:

Ond i droi nôl at y cysyniad o gystadleuaeth, mae’r byd yma yn dibynnu yn llwyr bron ar y waw-ffactor (S4C™), ac er mwyn sicrhau hynny mae’n rhaid datblygu’r syniadau hwnnw sy’n mynd i chwalu pen dilynwyr y byd a’i dosbarthu mewn modd ‘aggressive’ hyrwyddol.

Gyda’r we nawr yn medru dangos fideo mor hawdd, mae’r modd o wneud hynny wedi mynd yn llawer, llawer haws. Mae’n ddiddorol iawn. I mi beth bynnag. Ahem.

Ydych chi am brynu y PS4 neu’r Xbox One? Cofiwch drydar ar @golwg360. Ac os ‘da chi eisiau cwyno wedyn fi, @dafprys, yw’r boi!