Mae Llywodraeth Iran yn fodlon i asiantaeth niwclear y Genhedloedd Unedig archwilio adweithydd niwclear newydd ymhen wythnosau.

Dywedodd llefarydd ar ran adran niwclear y wlad y gallai atomfa Arak gael ei archwilio erbyn 11 Rhagfyr.

Ond ychwanegodd y byddai’n rhai i’r asiantaeth gytuno ar fanylion yr archwiliad.

Y gred yw bod hwn yn gynnig ewyllys da cyn i drafodathau rhwng Iran a’r asiantaeth ddechrau ar Ragfyr 11.

Mae llywodraethau’r gorllewin yn amau fod rhaglen niwclear Iran am gynnwys creu taflegrau niwclear ond mae’r honiad hwn yn cael ei wadu gan y llywodraeth yn Tehran.