Mae aelod o staff sy’n gweithio yn uned galwadau ffôn pencadlys yr heddlu yn Llundain wedi ei harestio fel rhan o ymchwiliad i honiadau fod newyddiadurwyr wedi talu swyddogion cyhoeddus am wybodaeth.
Cafodd y fenyw 33 oed sy’n gweithio yn Scotland Yard ei harestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Hi yw’r 79ain person i gael eu harestio fel rhan o Operation Elveden sy’n cael ei gynnal ochr yn ochr ag ymchwiliadau i honiadau o hacio ffonau a hacio cyfrifiaduron.