Bydd ystafelloedd darlithio yn wag unwaith eto ym mis Rhagfyr wrth i bedair undeb streicio dros anghydfod yn ymwneud â chyflogau staff.
Bydd Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU), Unsain, Unite ac undeb addysg yr Alban (EIS) yn gweithredu’n diwydiannol ar 3 Rhagfyr ar ôl gwrthod codiad cyflog o 1%.
Maen nhw’n dadlau y byddai hyn yn golygu bod cyflogau’n werth 13% yn llai mewn termau real nag yn 2008.
Mae Unsain, Unite ac UCU eisoes wedi cynnal streic undydd ar 31 Hydref.