Fe dreuliodd o leia’ 12,000 o gleifion o leia’ 12 awr yn aros i gael eu trin mewn unedau damweiniau ac achosion brys ysbytai’r llynedd, yn ôl papur newydd y Daily Mail.

Canfu’r papur newydd y wybodaeth gan gynnwys fod un claf wedi aros i gael ei drin am 37 awr mewn ysbyty yn Lerpwl yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth.

Dywedodd Peter Carter o’r Coleg Nyrsio Brenhinol wrth y Daily Mail fod nifer o’r rheiny oedd yn gorfod aros ar droliau yn yr unedau yn debygol o fod ‘mewn gofid’.

“Yr henoes yw’r garfan o bobl sydd yn gorfod aros ar drolïau am ddyddiau,” ychwanegodd.

“Mae’n peri gofid i feddwl bod cleifion hŷn yn cael eu trin fel hyn.”

Bydd cyfarwyddwr meddygol y gwasanaeth iechyd, Syr Bruce Keogh yn cyhoeddi adroddiad ar gynlluniau hir dymor ar gyfer unedau damweiniau ac achosion brys yr wythnos hon.