Mae dwsinau o bobl wedi’u hanafu ar ôl i filoedd o weithwyr ffatrïoedd dillad wrthdaro â’r heddlu yn Bangladesh.

Mae’r gweithwyr yn protestio ynghylch gwell cyflogau a gwell amodau gwaith fel rhan o ddiwydiant sy’n codi £12.5bn mewn allforion i’r wlad.

Yr wythnos ddiwetha’, fe benderfynodd panel gafodd ei benodi gan Lywodraeth y wlad godi isafswm cyflog gweithwyr dillad 77% i £42 y mis, sydd yn dal yn isafswm cyflog isa’r byd.

Mae’r gweithwyr am i’r isafswm cyflog godi i £64 y mis.

Nwy dagrau

Saethodd yr heddlu nwy dagrau at y protestwyr wrth iddyn nhw ymosod ar ffatrïoedd gan achosi o leiaf 200 ohonyn nhw i gau ar ail ddiwrnod y protestiadau.

Mae’r diwydiant dillad ym Mangladesh yn cyflogi tua 4 miliwn o weithwyr , y mwyafrif ohonynt yn fenywod.

Mae’r diwydiant wedi cael ei feirniadu am amodau gwaith gwael wed ii ffatri ddymchwel gan ladd 1,100 o bobl ym mis Ebrill eleni.