Mae prisiau tai wedi codi eto yng Nghymru yn ystod mis Hydref – ond mae llawer mwy o brynwyr posibl nac sydd yna o dai ar gael iddyn nhw.

Dyna ganlyniadau adroddiad diweddara’ Sefydliad Brenhinol y Syfrewyr Siartredig (RICS) ar y farchnad dai yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad, mae prisiau tai wedi codi eto yn ystod Hydref 2013. Mae prisiau tai ar eu huchaf ers Mehefin 2004, yn ôl y Sefydliad.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud fod y cynnydd ym mhrisiau tai yn dangos y gagendor sydd rhwng nifer y gwerthwyr a nifer y prynwyr yng Nghymru. Pan mae tai yn “brin”, mae gwerthwyr yn gallu gofyn mwy amdanyn nhw.